Cefndir

MarkerMarkerMarkerMarkerMarkerMae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r grwpiau ffocws a gynhaliwyd fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i Effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â Gofalwyr.

MarkerMarkerMae'r canfyddiadau yn seiliedig ar 14 grŵp ffocws a gynhaliwyd mewn nifer o leoliadau ledled Cymru. Mae cyfraniadau gan unigolion nad oeddent yn gallu dod i'r grwpiau ffocws wedi'u cynnwys hefyd.

MarkerMarkerMarkerMarkerMarkerTrefnwyd sesiynau drwy sefydliadau sy'n cefnogi gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion. Mae barn y 136 o ofalwyr a staff cymorth a gymerodd ran wedi'u crynhoi i themâu allweddol. Gellir darparu nodiadau o sesiynau unigol ar gais.

MarkerMarkerMarkerMarkerTrafododd cyfranogwyr eu hymwybyddiaeth o'r Ddeddf, y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd, y prif heriau maent yn eu hwynebu a'u syniadau am newidiadau a fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw.

Diben y canfyddiadau hyn yw helpu'r Pwyllgor i ganfod effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar ofalwyr yng Nghymru, a bydd yn sail ar gyfer trafodaethau â chynrychiolwyr o'r grwpiau hyn mewn digwyddiad grŵp trafod gyda'r Pwyllgor ar 17 Hydref.

Crynodeb o'r themâu allweddol:

1.    Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Diffyg ymwybyddiaeth

Nid oedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc a gymerodd ran, yn ymwybodol o'r Ddeddf a'i heffaith arnyn nhw fel gofalwyr.

Mewn achosion lle roedd ymwybyddiaeth, roedd hynny wedi dod naill ai gan eiriolwr neu drwy eu hymchwil eu hunain.

“Does neb wedi dweud wrthyf i am fy hawliau o dan y Ddeddf.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Iechyd Meddwl Caerffili

“Dim ond drwy fod yn rhan o'r grŵp ffocws hwn y des i wybod am y Ddeddf.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

Yn agored i ddehongli

O'r rhai oedd yn ymwybodol o'r Ddeddf, roedd llawer yn teimlo bod y Ddeddf ei hun yn gadarnhaol iawn o ran yr hawliau mae'n rhoi i ofalwyr. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw un yn gweld effaith y Ddeddf ac yn teimlo, er bod y ddeddfwriaeth yn gwarchod gofalwyr bellach, nid oedd yr adnoddau yno i weithredu'r gwasanaethau hynny.

Dywedodd y cyfranogwyr fod y Ddeddf yn agored i'w dehongli a oedd yn arwain at gymorth anghyson, a diffyg ymwybyddiaeth o'r rhai oedd yn cefnogi gofalwyr ar draws gwahanol sectorau.

“Mae'r Ddeddf yn addo llawer i ofalwyr, ond nid yw'r adnoddau yno i'w darparu nhw.” Cyfranogwr o grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

“Mae'r Ddeddf yn wych, ond nid yw'n cael ei gweithredu. Dwi ddim yn teimlo fel fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi ac rwy'n cael fy nghymryd yn ganiataol.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

Dim gwahaniaeth

O ganlyniad, roedd llawer nad oeddent yn ymwybodol o'r Ddeddf yn synnu o glywed am y ddeddfwriaeth sydd i fod i'w helpu, ac roedd rhai oedd yn ymwybodol ohoni yn teimlo nad oedd unrhyw wahaniaeth yn ei sgil.

“Nid oes unrhyw effaith yn sgil y Ddeddf – nid yw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandrindod

“Nid yw'r Ddeddf yn gweithio. Rydym ar ymyl y dibyn. Nid ydym yn ymdopi.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Hafal Gorllewin Cymru

2.   Asesiadau anghenion gofalwyr a chanlyniadau

Anghysondebau

Ar gyfartaledd, roedd tua hanner y cyfranogwyr wedi cael asesiad anghenion gofalwyr. Fodd bynnag, roedd yr amgylchiadau yn amrywiol iawn.

Nid oedd rhai yn ymwybodol eu bod yn cael eu hasesu, ac nid oedd ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o ran beth ddylai ddigwydd nesaf.

Roedd eraill yn cael eu hasesu o flaen y rhai roeddent yn gofalu amdanynt ac yn teimlo na allent fod mor onest ag yr oeddent yn dymuno.

Roedd rhai cyfranogwyr wedi gofyn am asesiadau, dim ond i gael gwybod bod rhestr aros o 3-6 mis. Mae eraill wedi cael gwybod am gost yr asesiadau fel ymgais i'w hannog i beidio â gofyn am un yn ffurfiol.

Roedd cyfranogwyr yn teimlo bod ansawdd yr asesiadau yn ddibynnol iawn ar y ffurflen a ddefnyddir gan fod y ffurflen newydd yn seiliedig ar ganlyniadau a beth mae'r gofalwr ei eisiau. Roeddent hefyd yn teimlo eu bod yn ddibynnol iawn ar y gweithiwr cymdeithasol a'u dealltwriaeth o ofalwyr a'u hawliau.

Er bod tri chyfranogwr (o sesiynau gwahanol) yn hapus gyda'r cymorth roeddent wedi'i gael, ychydig iawn o gyfranogwyr oedd wedi cael cynnig asesiad, a oedd wedi cael asesiad priodol ac a oedd wedyn wedi gweld gwahaniaeth yn y cymorth yr oeddent yn gallu ei gael.

“Os nad yw pobl yn gwybod eu bod yn cael asesiad, nid ydyn nhw’n gwybod beth i ofyn amdano, na beth mae ganddyn nhw hawl i'w gael.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Cymdeithas Strôc

“Fe ges i asesiad yn y pen draw. Roedden nhw'n oedi o hyd ac roedd rhaid cael dagrau a gwyliau wedi'i drefnu er mwyn cael y seibiant a gafodd ei argymell.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Fe wnaeth y gweithiwr cymdeithasol ddweud wrthyf na fyddai asesiad yn gwneud unrhyw wahaniaeth i fi.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandrindod

Gwasanaethau Cymdeithasol

Dywedodd rhai cyfranogwyr fod argymhellion ar gyfer cymorth wedi'u gwneud yn ystod eu hasesiad ond nad oedd adnoddau ar gael i'w rhoi ar waith.

Roedd eraill yn teimlo bod gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod faint oedd ganddynt i weithio gydag ef a'u bod yn cynnig cymorth yn unol â hynny, yn hytrach nag yn seiliedig ar angen y gofalwr. Bydd yn cymryd llawer o amser ac egni i wthio am unrhyw beth ychwanegol, hyd yn oed os oes ganddynt hawl i'w gael.

O ganlyniad, roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo y dylid darparu asesiadau gan drydydd parti. Gallai hyn hefyd osgoi bod y gofalwr yn poeni eu bod yn cael eu barnu ar eu gallu i ofalu, yn enwedig yn achos rhieni ofalwyr, sydd yn aml yn amharod i gael asesiad rhag ofn y byddai sgil-effeithiau.

Roedd rhai gofalwyr yn cael cynnig asesiadau gan sefydliadau trydydd sector yn hytrach na gwasanaethau cymdeithasol. Roedd llawer yn teimlo bod hyn yn well gan eu bod yn ddiduedd ac y gallent wneud argymhellion yn seiliedig ar angen. Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn arwain at y cymorth cywir yn cael ei gynnig, ac roedd staff cymorth o'r trydydd sector yn dweud nad oeddent yn cael gwybod yn aml am y cynnydd a wnaed ar yr argymhellion/

“Does dim byd yn digwydd ar ôl asesiad nawr – ond sut gallai rhywbeth ddigwydd heb arian?” Cyfranogwr o Bwyllgor Gofalwyr Cymru

“Ces wybod i beidio trafferthu gan na fyddai'r awdurdod lleol yn gallu gwneud unrhyw beth am y peth.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandrindod

“Mae'n dibynnu'n llwyr ar bwy sy'n darparu'r asesiad. Mae'r awdurdod lleol yn canolbwyntio ar beth gallan nhw gynnig, ac mae'r canolfannau gofalwyr yn llawer mwy cyfannol ac yn argymell y cymorth sydd ar gael.” Cyfranogwr o grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Newid mewn asesiadau

Roedd llawer o gyfranogwyr wedi bod yn ofalwyr ers amser hir ac wedi cael asesiadau cyn ac ar ôl y Ddeddf. Nid oedd rhai yn hoff o'r system newydd ac yn teimlo bod yr asesiadau yn llai gwerthfawr nawr.

Roedd nifer o'r cyfranogwyr yn teimlo bod y sgyrsiau ‘yr hyn sydd o bwys’[1] yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar y gofalwr i godi materion a gofyn am help, yn hytrach na chael cynnig y cymorth sy'n berthnasol i'w sefyllfa.

Beth yw'r pwynt?

O'r rhai nad oeddent wedi cael asesiad, nid oedd rhai yn gwybod bod hawl ganddynt i gael un ac felly nid oeddent wedi gofyn am un.

Roedd eraill wedi colli ffydd yn y system ac nid oeddent am fynd drwy'r broses pe na fyddai unrhyw beth yn cael ei weithredu ar ôl hynny.

Roedd nifer o'r gweithwyr cymorth a gymerodd ran yn teimlo bod yr asesiadau yn codi disgwyliadau pan, mewn gwirionedd, dim ond ychydig o gymorth y gellid ei gynnig oherwydd diffyg adnoddau.

“Mae llawer o ofalwyr yn anwybyddu gwasanaethau cymdeithasol ac yn datrys pethau eu hunain. Y gwasanaethau cymdeithasol yw'r dewis olaf pan fyddwch yn desbret ac angen rhywbeth.”Cyfranogwr o grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

“Rwyf wedi golchi fy nwylo ohonynt.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Iechyd Meddwl Caerffili

Gofalwyr ifanc

Ymysg y siaradwyr ifanc a'r gofalwyr oedolion ifanc y gwnaethom siarad â nhw, nid oedd unrhyw un yn gallu cyfeirio at asesiad yn cael ei gynnig. Roedd llawer yn credu nad oedd gwasanaethau cymdeithasol yn cynnig unrhyw gymorth iddyn nhw.

“Dywedodd un person eu bod nhw mewn cyfarfod am flwyddyn gyfan.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Oedolion Ifanc Abertawe

3.   Cymorth a gwybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i ofalwyr

Diffyg gwybodaeth

Roedd llawer o gyfranogwyr yn teimlo bod diffyg gwybodaeth ar gael i ofalwyr am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw.

Roedd rhai yn dweud eu bod wedi dod ar draws gwybodaeth drwy ddamwain; roedd eraill wedi gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain er mwyn gweld beth oedd ganddynt hawl iddo.

Roedd anghysondebau hefyd yn y wybodaeth a'r cymorth a gynigir i gyfranogwyr. Roedd rhai aelodau o'r un grŵp wedi cael lefelau gwahanol o wybodaeth gan yr un awdurdod ac roedd llawer yn teimlo bod y cymorth a gynigir yn dibynnu'n helaeth ar weithwyr cymdeithasol unigol.

“Does dim digon o help uno. Ble ddylwn i fynd i gael help?” Cyfranogwr o Credu Carers Llandrindod

“Mae angen mwy o wybodaeth arnom ni. Ble ddylen ni fynd i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael?” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Dim ond drwy fy ymchwil fy hun y des i o hyd i bethau. Rydych chi'n dod ar draws pobl neu wybodaeth.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Yr unig reswm rwy'n gwybod am gymorth yw oherwydd gwybodaeth ar lafar gan ffrindiau” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Cymdeithas Strôc

“Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael. Cymerodd hi 10 mlynedd i fi wybod am ofal seibiant.” Cyfranogiad o Ofalwyr Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor

Y trydydd sector

Cafodd y mwyafrif o gyfranogwyr y cymorth mwyaf gan sefydliadau trydydd sector.[2]

Roedd llawer yn teimlo na fyddent yn gallu ymdopi heb y cymorth a gynigir gan y sefydliadau hyn, naill ai ar ffurf gwybodaeth am yr hyn y mae ganddynt hawl iddynt, neu drwy'r grwpiau cymorth a chwnsela.

“Yn sgil anobaith llwyr, es i ar-lein a dod o hyd i Ofalwyr Cymru. Dim ond ar ôl hynny y des i wybod am fy hawliau.” Cyfranogwr o Bwyllgor Gofalwyr Cymru

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod gwaith y trydydd sector. Dyma'r unig ffordd y mae rhai gofalwyr yn gwybod unrhyw beth am wasanaethau cymorth.” Cyfranogwr o Bwyllgor Gofalwyr Cymru

“Mae'r trydydd sector yn ein cadw ni'n fyw.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Hafal Gorllewin Cymru

“Mae'r trydydd sector yn bwysig iawn wrth gefnogi gofalwyr a'u helpu i ddeall y stigma bod gwasanaethau cymdeithasol wedi dyddio.” Cyfranogwr o grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Brwydr i gael cymorth

Un thema gyffredin sy'n deillio o'r sesiynau oedd y teimlad o orfod brwydro i gael gwybodaeth a chymorth.

Dywedodd llawer o gyfranogwyr eu bod yn teimlo eu bod wedi eu hymlâdd gan eu cyfrifoldebau gofalu, ac wedyn eu bod yn gorfod gweithio'n galed i ganfod gwybodaeth am yr hyn sydd ganddynt hawl i'w gwael ac yna'n gorfod brwydro i gael y cymorth hwnnw.

Roedd anghysondebau hefyd yn y cymorth a gynigir i ofalwyr o gyflyrau gwahanol. Roedd gofalwyr o rai cyflyrau, fel iechyd meddwl, wedi'u gofidio'n benodol gyda'r diffyg cymorth ac yn teimlo eu bod yn cael eu pasio rhwng gwahanol adrannau, sy'n cyflwyno rhwystrau ychwanegol i gael gafael ar gymorth.

“Nid yw gofalwyr sydd wedi blino'n emosiynol ac yn gorfforol wedi dod rownd i ganfod y cymorth.” Cyfranogwr o grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

“Mae yna wal ym mhob cam o'r ffordd.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Maent yn dweud bod yna gymorth ond mae yna gymaint o rwystrau.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Hafal Gorllewin Cymru

“Dim ond am fy mod i'r math o berson sy'n mynd i ofyn y ces i fy nghymorth.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

“Ble rydych chi'n credu y mae pobl yn cael yr egni i ganfod y cymorth?” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Hafal Gorllewin Cymru

4.   Cymorth a allai wneud gwahaniaeth

Mwy o wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth

Yn seiliedig ar drafodaethau ynghylch diffyg cymorth, dywedodd pob grŵp bod angen gwell cyfeirio a mwy o wybodaeth am y cymorth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw.

I lawer, roeddent wedi disgyn i rôl gofalu, ac nid oeddent wedi ystyried eu hunain yn ‘ofalwr’ ar unwaith. Roedd llawer yn teimlo ei bod hi wedi bod yn anodd cael gafael ar gymorth, neu'n cydnabod bod angen cymorth arnynt, nes eu bod yn desbret am hynny.

“Nid yw pobl yn cydnabod y gair gofalwr, mae angen inni ddeall yr iaith y mae pobl yn ei deall.” Cyfranogwr o Bwyllgor Gofalwyr Cymru

“Nid yw hanner ohonom am fod yn ofalwyr – rydym am fod yn wŷr a gwragedd.” Cyfranogiad o Ofalwyr Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor

Gwasanaethau cydgysylltiedig ac addysg well

Roedd gweithwyr cymorth a gymerodd ran yn teimlo bod y Ddeddf wedi gwanhau'r hyn sydd gan y Mesur Gofalwyr ar waith a bod angen mwy o waith gyda'r Byrddau Iechyd. Roeddent yn teimlo bod y Ddeddf yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau awdurdodau llafur, a bod y gwasanaeth iechyd wedi tynnu eu troed oddi ar y pedal.

Roedd cyfranogwyr gofalwyr hefyd yn teimlo bod y system yn rhy gymhleth ac roeddent am gael un person y gallent gysylltu â nhw ynglŷn â chymorth, ynghyd â phroses glir a chyson ar gyfer asesiadau.

Roedd cyfranogwyr hefyd am i'r rhai sy'n gweithio gyda gofalwyr i gael eu haddysgu'n well am hawliau gofalwyr a'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael. Er enghraifft, staff ysbyty ar adegau oedd y cyntaf i ddod i gysylltiad â gofalwyr ac, eto, nid oeddent yn gallu cynnig y wybodaeth berthnasol na chyfeirio at wasanaethau.

“Rwy'n synnu cyn lleied y mae pobl yn ei wybod weithiau. Mae angen gwaith mwy cydygysylltiedig.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

Seibiant

Cafodd seibiant ei godi ym mhob sesiwn fel un o'r adnoddau pwysicaf sydd ar gael i ofalwyr. Heb seibiant rheolaeth a phriodol, roedd gofalwyr yn teimlo na allent ymdopi â'u cyfrifoldebau gofalu ac yn teimlo bod eu hiechyd yn dioddef o ganlyniad.

Roedd y rhan fwyaf o grwpiau yn teimlo eu bod wedi gorfod brwydro i gael seibiant ac roedd llawer yn dweud nad oeddent wedi cael cynnig gwasanaethau priodol. Dywedodd un cyfranogwr ei bod wedi trefnu gwyliau cyn iddi allu sicrhau lle i'w mam, ac yna nid oedd yn briodol i'w hanghenion ac felly roedd yn rhaid iddi ganslo ei hamser i ffwrdd.

Roedd cyfranogwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn gweld hyn yn broblem benodol.

“Mae angen seibiant arnaf, dim ond ychydig ddyddiau i ffwrdd ac i deimlo'n gyfforddus yn eu gadael nhw. Dwi ddim yn rhoi amser i fi fy hun.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Iechyd Meddwl Caerffili

“Dylid ystyried seibiant mwy hygyrch fel hawl, yn hytrach na gorfod brwydro i’w gael.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Dydych chi ddim yn ymdrin â'ch materion iechyd eich hun - ry'ch chi'n rhoi eich hun yn ail.” Cyfranogwr o Bwyllgor Gofalwyr Cymru

“Does fyw i mi geisio datrys fy materion fy hun - beth fase'n digwydd iddo fe pe bawn i'n sâl?” Cyfranogwr o Bwyllgor Gofalwyr Cymru

“Mae gen i fy anghenion a materion meddygol fy hun sydd wedi gwaethygu.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

Cydnabyddiaeth

Roedd pob grŵp yn awyddus i weld mwy o gydnabyddiaeth am y gwaith mae gofalwyr yn ei wneud.

Roedd y mwyafrif yn teimlo'n gryf eu bod yn cefnogi'r system gofal ac yn arbed arian i awdurdodau lleol, ond eto yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu trin heb fawr o barch.

“Yr oll rydym ei eisiau yw iddyn nhw gydnabod y gwaith rydym yn ei wneud.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandrindod

“Rydyn ni'n arbed llawer iawn o arian i awdurdodau lleol. Heb ofalwyr, fe fydden ni mewn trafferth fawr.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

“Nid ydym yn cael ein trin yn deg nac ein trin â pharch. Faint o arian rydyn ni'n ei arbed i'r wlad?” Cyfranogiad o Ofalwyr Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor

“Ry'n ni'n angof.” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Cymdeithas Strôc

Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc

Roedd staff cymorth a gymerodd ran yn teimlo bod angen mwy o gymorth i sicrhau iechyd meddyliol a chorfforol da y gofalwyr. Roedd hwn yn bryder penodol yn ymwneud â gofalwyr ifanc lle roedd problemau iechyd meddwl yn gyffredin o ganlyniad i'w cyfrifoldebau cynyddol.

Yn benodol, roedd gofalwyr ifanc yn teimlo bod diffyg cydnabyddiaeth gan eu hysgolion a meddygon teulu yn ymwneud â faint o ofal maent yn gyfrifol amdano. Cafodd hyn ei godi fel pryder ar wahân gan staff cymorth.

Roedd y staff cymorth hynny hefyd yn teimlo bod angen mwy o gymorth i ofalwyr sy'n oedolion ifanc (17+) sy'n pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion. Roedd rhwystredigaeth ynghylch y diffyg diffiniad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y garfan hon ac roedd galwad am fath gwahanol o wasanaeth.

“Mae eu hanghenion yn gymhleth iawn – gofalu am eu rhieni, eu brodyr a chwiorydd a jyglo addysg neu waith. Mae angen gweithwyr cymorth ar ofalwyr ifanc, nid dim ond gwybodaeth.”

“Mae newid oed pontio Llywodraeth Cymru wedi cymhlethu pethau yma a'i gwneud yn anoddach i ofalwyr ifanc hŷn ganfod lle. Nid ydyn nhw'n gyfforddus gyda Barnardo's.”

“Yn sicr mae yna fwlch yna. Ry'n ni wedi gwneud cynnydd gyda gofalwyr ifanc ond mae gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn cwympo y tu ôl.”

Sylwadau i gyd gan Grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Gofalwr hŷn

Roedd pryder ymysg nifer o'r grwpiau yn ymwneud â'u cyfrifoldebau gofalu a beth sy'n digwydd pan na fyddan nhw o gwmpas mwyach. Roedd nifer o gyfranogwyr yn gofalu am rieni neu blant ac yn poeni pwy fyddai'n gofalu amdanynt pe byddai rhywbeth yn digwydd iddyn nhw fel y prif ofalwr.

Roedd llawer am gael sicrwydd ynghylch yr opsiynau sydd ar gael a threfniadau yn cael eu rhoi ar waith ymlaen llaw i gael tawelwch meddwl.

“Os byddaf i yn mynd yn gyntaf, wneith e ddim goroesi. Beth fydd yn digwydd iddo fe?” Cyfranogwr o grŵp Gofalwyr Iechyd Meddwl Caerffili

5.   Sylwadau Ychwanegol

Ynysig

Roedd pob grŵp yn siarad am effaith gofalu arnyn nhw fel unigolion. Roedd llawer yn teimlo ei fod yn brofiad unig, waeth pa gyflwr yr oedd yn effeithio arnyn nhw.

Roedd hyn yn pwysleisio ymhellach yr angen am well cymorth a chydnabyddiaeth o rôl gofalu.

Roedd grwpiau cymorth yn ddefnyddiol i rai, a oedd yn teimlo ei fod yn gysur i gwrdd â phobl mewn sefyllfaoedd tebyg ac i rannu gwybodaeth.

“Gall fod yn ynysig iawn. Doeddwn i'n methu gadael y tŷ felly doeddwn i ddim yn gwybod am y cymorth a oedd ar gael.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

“Ro'n i'n berson eithaf normal cyn ro'n i'n ofalwr.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Fel gofalwr, rydych chi'n colli synnwyr o'ch hun.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

“Mae'n rhaid i chi roi eich breuddwydion i un ochr.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

“Ar ôl i chi orffen gofalu, rydych chi ar goll, ac mae'ch holl fywyd yn newid.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

“Rydych chi'n colli'ch hunaniaeth. Chi yw'r gofalwr nawr. Mae angen cydbwysedd arnoch chi fel eich bod yn gwneud yr hyn sydd angen i chi ei wneud hefyd.” Cyfranogwr o Ganolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

“Unwaith i chi ddod yn ofalwr, does nunlle i fynd.” Cyfranogwr o Credu Carers Llandinam

Stigma Gwasanaethau Cymdeithasol

Roedd nifer o gyfranogwyr yn teimlo bod stigma yn gysylltiedig â gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn atal llawer rhag gofyn am help pan fo angen.

Fel y soniwyd eisoes, roedd rhieni ofalwyr yn teimlo'n benodol na allent fod yn onest am sut roeddent yn ymdopi â'u cyfrifoldebau rhag ofn y byddai sgil-effeithiau. Roedd gofalwyr ifanc hefyd yn dweud eu bod yn cysylltu gwasanaethau cymdeithasol â phrofiadau negyddol ac roedd ganddynt ofn rhoi gwybod iddynt eu yn cael trafferth ymdopi.

Fe wnaeth rhai grwpiau fynd â hyn ymhellach gan fynegi eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio gan wasanaethau proffesiynol, yn teimlo na allent gwyno heb osod cyfyngiadau, ac yn gorfod brwydro pob cam pellach.

Roedd y mwyafrif yn cytuno bod gofalwyr yn pryderu ynghylch herio gweithwyr proffesiynol rhag ofn y byddai'r hyn a gynigir yn cael ei dynnu'n ôl.

“Nid oes unrhyw gwynion yn cael eu gwneud rhag ofn y bydd sgil-effeithiau. Bydd y rhan fwyaf ond yn siarad ar ôl i'r person roeddent yn gofalu amdano farw.” Cyfranogwr o grŵp staff rheng flaen Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Casgliad

Roedd nifer fechan o ofalwyr a gymerodd ran yn y grwpiau ffocws yn teimlo eu bod wedi cael y lefel briodol o gymorth ac yn hapus bod eu cyfrifoldebau gofalu yn cael eu cydnabod. Fodd bynnag, roedd y cyfranogwyr hyn yn cydnabod nad oedd hyn yn gyffredinol ac yn teimlo ei bod yn dibynnu ar weithwyr cymdeithasol unigol neu eu hymchwil a cheisiadau eu hunain.

Roedd cyfranogwyr wedi cael eu heffeithio gan gyflyrau gwahanol a oedd yn golygu heriau gwahanol. Er enghraifft, roedd cyfranogwyr sy'n gofalu am unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn ei chael hi'n anodd i ganolbwyntio ar eu hanghenion eu hunain fel gofalwyr gan fod cryfder y teimlad a'r rhwystredigaeth ynghylch y diffyg cefnogaeth ddigonol a'r gofal a gynigir i'r rhai sy'n gofalu yn rhy gryf.

Fodd bynnag, roedd mwyafrif y cyfranogwyr yn cytuno er bod hi'n ymddangos bod y Ddeddf yn cefnogi anghenion gofalwyr, mewn gwirionedd nid oedd yn cael ei weithredu i'r graddau eithaf a fwriadwyd.

 

Atodiad

Fformat

Gofynnwyd y cwestiynau canlynol i'r cyfranogwyr: 

·         Ydych chi'n ymwybodol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014?

·         Ydych chi wedi cael asesiad anghenion gofalwr? Os felly, beth oedd y canlyniad? Os na, pam ddim?

·         Pa gefnogaeth rydych yn ei gael ar hyn o bryd? Gan bwy rydych chi'n cael y gefnogaeth hon? Ydych chi'n gwybod ble i fynd i gael cymorth/gwybodaeth?

·         Beth arall fyddai'n eich helpu chi?

·         Oes gennych chi unrhyw sylwadau ychwanegol?

Trafododd y cyfranogwyr y cwestiynau fel grŵp a defnyddiwyd papurau post it i gasglu atebion a dyfyniadau.

 

Cyfranogwyr y Grwpiau Ffocws:

·         Gofalwyr Ifanc Gwynedd a Môn – Gweithredu dros Blant 

·         Gweithwyr cymorth Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

·         Taith Ni Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

·         Credu Cymru

·         Crossroads Care in the Vale

·         Gofalwyr Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor 

·         Pwyllgor Gofalwyr Cymru

·         Gofalwyr Cymru - Grŵp Gofalwyr Parkinsons

·         Gofalwyr y Gymdeithas Strôc

·         Gofal Canser Macmillan a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr

·         Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint - Barnardos

·         Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru - Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd

·         Gofalwyr Hafal Gorllewin Cymru

·         Gofalwyr Iechyd Meddwl Caerffili

·         Gofalwyr Abertawe - gofalwyr oedolion ifanc

·         Gofalwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin



[1] Mae asesiadau gofalwyr yn cael eu galw'n ‘sgyrsiau yr hyn sydd o bwys’ yn aml erbyn hyn mewn ymgais i wneud y broses yn llai ffurfiol gan ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau.

[2] Cafodd y rhan fwyaf o sesiynau grŵp ffocws eu trefnu drwy grwpiau cymorth a gynigir gan sefydliadau trydydd sector.